cymeriad


> character


cymeriad [kumériad] (noun); character

Un o’r prif anawsterau sy’n gysylltiedig â’r termau a ddefnyddir wrth drafod perfformio yn y Gymraeg yw’r ffaith nad ydynt hanner mor amwys â’r rhan fwyaf o dermau Seisnig.  Yr enghraifft amlycaf o hyn yw’r gair ‘perfformio’ ei hun, sydd – er ei fod yn amlwg yn fenthyciad o’r Saesneg – yn fwy diriaethol a thipyn yn fwy cyfyng na’r term Saesneg ‘performance’, os derbyniwn ddiffiniad Elin Diamond o hwnnw fel gair sy’n dynodi ‘gweithred a’r hyn a weithredir’.

Fodd bynnag, mae’r term ‘cymeriad’ yn eithriad i’r duedd hon.  Mae’n fwy amwys na’r term Saesneg.  Mae hwnnw – ‘character’ – yn deillio o’r gair Groegaidd am ‘ysgythriad’, ac wedi tyfu’n raddol i ddynodi (ar ôl Dryden ym 1664) ‘nodweddion diffiniol’ unrhyw unigolyn, yn enwedig y rheini sy’n cael eu cynnwys mewn darn o ffuglen gan awdur.  Ar y llaw arall, mae ‘cymeriad’, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, yn cyfeirio at ‘y weithred o gymryd neu o dderbyn’.  Rhydd hyn agwedd ddeuol iddo’n syth, gan fod cymryd a derbyn yn weithredoedd gwahanol iawn i’w gilydd; ond, yn bwysicach na hynny, mae amwysedd y diffiniad yn gosod ‘cymeriad’ ar y trothwy rhwng bod yn ‘beth’ a bod yn weithred.  Mae gwreiddyn y gair yn y ferf ‘cymryd’ yn golygu bod y profiad corfforol o ‘afael’, o ‘feddiannu’ neu ‘ymaflyd’ mewn rhyw wrthych neu’i gilydd, yn amlwg iawn ynddo; ac eto mae ‘cymeriad’ yn beth sydd wedi ei gwblhau a’i gyflawni eisoes hefyd – pa fodd arall y medrwn ddeall bod y weithred o ‘ymaflyd’ wedi’i chwblhau ac wedi’i ffurfio’n ‘gymeriad’ yn y lle cyntaf?

Os palwn yn ddyfnach i etymoleg y gair, cawn fod ail sillaf y gair yn deillio o’r hen Frythoneg ‘-ber-‘ sy’n dynodi ‘llwyth’.  Gan hynny, ‘gweithred o gyd-rannu llwyth’ yw ‘cymeriad’ i gynulleidfa Gymraeg.

 Author and translator: Roger Owen